Doeddwn ni ddim am fynd i'r Eisteddfod eleni beth bynnag oherwydd ni allaf afforddi y tal mynediad fel Cymro di-waith ond ar ôl darllen tudalen blaen y Cymro bore mha teimlaf fel boycottio y Brifwyl bondigrybwyll am byth. Pam? Oherwydd yn fy marn i mae'r Cyfarwyddwr Elfed Roberts ac beirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen eleni wedi tramgwyddo yn erbyn awdur gwaith ag anfonwyd atynt. Maen nhw wedi galw'r awdur yn 'ffiaidd', nid y gwaith ond yr awdur. Ffiaidd yn golygu abhorrent, abominable, detestable,disgusting, fulsome, gruesome, hateful, loathsome, nasty, noisome, obnoxious, odious,revolting, sordid, vile, offensive. Nawr i alw awdur ac nid ei waith yn ffiaidd yn swnio yn enllibus i mi! Mi roeddwn ni dan y cam argraff na beth bynnag sydd yn mynd ymlaen yn yr Eisteddfod yn aros yn yr Eisteddfod. Mi roeddwn ni'n meddwl ar ôl i chi talu eich siec am £5.00 fod popeth yn gyfrinachol ond na. Nid yn unig fod y beirniaid yn gallu 'snitcho' i'r Prif Weithredwr ond mae'r caws mawr yna yn gallu mynd at ei gyfreithwyr ac yntau at yr Heddlu. Uurmm! "Esgusodwch fi ond dwi eisiau fy mhum punt yn ol"
Yn wir roedd rhaid i mi checkio dyddiad y papur bore mha, y flwyddyn. Nid nol yn 1915 ydan ni rŵan. Mha oes 'Lady Chatterley' drosodd.
"Ar ôl edrych am eiliadau ar y cynnyrch yma, o'n i'n sylweddoli fod y gwaith yma yn peri pryder" meddai Elfed Roberts, gan gyfeirio at natur ffantasiau rhywiol yr awdur a'r ofn y gallai'r awdur geisio gwireddu rhai ohonyn nhw gyda phlant ac anifeiliaid".
'Excuse Me', pwy ydy Cyfarwyddwr yr Eisteddfod i weud y fath beth? Ydy o yn arbenigwr mewn Seicoleg neu mewn Camdrin Rhywiol? Ac yn hynny o beth a ydy cyfreithwyr yr Eisteddfod?
Wel taswn ni'r awdur 'ffiaidd' yma faswn i ar y ffon i fy nghyfreithiwr i go handy! Darn o waith ffantasi roedd yr awdur wedi sgrifennu a dim ond eiliadau yn unig roedd y Prif Weithredwr wedi bod yn darllen. Y Prif Weithredwr nid y Beirniaid.
Ymateb gan Heddlu Gogledd Cymru
"Gallaf gadarnhau ein bod yn parhau i ymchwilio i atgyfeiriad a wnaed i ni ym Mis Mawrh eleni gan yr Eisteddfod Genedlaethol." meddai'r Ditectif Brif Arolygydd Iestyn Davies. " Mae'r gwyn a gafwyd yn ymwneud a chynnwys darn a gyflwynwyd ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen.
"Barnwyd fod y gwaith dan sylw o natur tramgwyddus ac anweddus, ac mae'n cael ei ymchwilio iddo fel trosedd dan y Ddeddf Cyfathrebiadau Anweddus."
No comments:
Post a Comment