http://www.diagnose-me.com/symptoms-of/paranoia-paranoid-personality-disorder.html
Dwi'n person drwgdybus, mae'n flin da fi. Os wnewch chi wasgu'r botwm chwarae ar record Terry Stafford rŵan ac wedyn darllenwch ymlaen, diolch yn fawr. Efallai rydych yn fwy cyfarwydd â fersiwn Elvis, a finnau hefyd, felli dewis un arall i fod yn wahanol ontife. Dwi'n ffeindio fo yn anodd trystio pobol ac i ymddiried ynddyn nhw, a'r Cymry a phawb arall fel ei gilydd. Dwi'n sylweddoli fod hwn yn rhan annatod o fy mhersonoliaeth ac yn gobeithio bydd sgrifennu amdano fo yn mynd i helpu fi ddatrys o. Wnaeth o ddim gwella yn gyfan gwbl ond ar drothwy fy mhen-blwydd yn 'forty fucking eight' dwi eisiau mynd yn gyhoeddus gyda'r ffeithiau yma. Dwi wedi cilio rhag y byd ers fy mhrofiadau yn Amsterdam ac yn y carchar yn 2005. Dwi'n meddwl i mi weld y byd yn lle peryglus a melli mi rydw i ar bigau'r drain yn aml. Dwi'n ffeindio fo yn anodd iawn i ymlacio. Ceisio meddwl beth oedd yr experiment yna gyda llygod mawr ble ddysgon nhw i beidio trio ar ôl cael cynifer o siociau electric. Dwi'n meddwl erbyn rŵan fy mod yn debyg i'r llygod mawr yna, wedi blino gyda phobol ai triciau. Dwi'n berson cymhleth felli dwi'n meddwl fod pawb arall yn mynd i fod yn gymhleth hefyd ac yn dipyn o sioc pan ddwi'n ffeindio dydyn nhw ddim. Gan edrych yn ôl dwi'n meddwl dechreuais fod yn amheus o oedolion yn yr ysgol ac mae fy amheuon am y natur ddynol wedi fy nilyn ar hyd fy oes. Oherwydd bod rhywun yn siarad Cymraeg dylech chi drystio nhw fwy? Rydym yn yr un cwch? Wel na, dwi ddim yn meddwl rydan ni. Mae cefndir economaidd a chyfalafiaeth yn gwneud ni yn wahanol, mae ein cefndir gwleidyddol ac mae'n flin da fi deud ond dwi'n teimlo fod y gwahaniaeth rhwng y de ar ogledd yn ormod i oroesi ac i uno ni fel cenedl. Beth bynnag mae'r rhai pybyr a selog yn deud does 'na ddim byd yn gyffredin rhwng Llangefni a Llanrhymni. Mae anghenion cefn gwlad ar ddinas yn hollol wahanol ond mae pobol yn mynnu mae un wlad i ni. Does neb yn gwadu'r ffaith fod 'na North/South divide yn Lloegr felli pam gwadu fod 'na un yng Nghymru? Mae digon yn cwyno am yr A470 ac yn mynnu system trafnidiaeth well rhwng y de ar ogledd ond yn fy nhyb i, y tirlun, y mynyddoedd a'r ffaith fod rhai ardaloedd mor anghysbell sydd wedi cadw'r iaith yn fyw. Yn teithio dol o Fanceinion yn ddiweddar meddyliais fod o'n wyrth fod yr iaith yma o gwbl i feddwl am yr holl mewn llifiad dyddiol sydd yn dod mewn i Ogledd Cymru yn nhermau bobol a nwyddau. Roedd hwn yn digwydd yn ugeiniau'r ugainfed ganrif, roedd trefi glan mor gogledd Cymru megis Bae Colwyn a Llandudno yn hollol Saesneg ei naws ac roedd fy nhad yn cofio un Cymro yn bloeddio ar gwr estron ar ei wyliau mewn acen gref y gogledd 'You have no right in our country'. Roedd hwn yn gyfnod Lloyd George. Y Prif Weinidog efallai wnaeth ddim sylweddoli'r fath effaith fasa’r ymerodraeth Brydeinig gael ar ei iaith gynhenid ag o yn bennaeth am gyfnod ar hwn. Dwedodd Saunders Lewis yn 1961 fod yn unfed awr ar ddeg ar yr iaith ac mae wedi bod bob munud, bob awr, bob dydd, bob wythnos, bob mis a bob blwyddyn ers hynny ond fel dywedodd y Gogleddwr o Frynaman, Dafydd Iwan, i ni yma o hyd.
No comments:
Post a Comment