Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Saturday 6 January 2018

Yr ysfa i sgrifennu yn Gymraeg





Mae'r ysfa i sgrifennu yn Gymraeg wedi dod drosta’i eto ond am beth y tro yma? Well, mi rydych ddim eisiau pregeth cyn i chi fynd allan i noson iasoer Ionawr. Rhywbeth bach i gnoi cil drosto fel rydych yn bwyta eich brie a cranberry ciabatta gyda latte levy neu ryw ddiod feddwol. Y mis yma ydy chweched pen-blwydd y blog bondigrybwyll yma. Chwe blynedd o fwydro fy mhen a fy ngeiriadur. Saesneg oedd popeth yn y dechrau ond mi fydd y darllenwyr cyson wedi sylweddoli fy mod yn gwneud yr ymgais yn ddiweddar i sgrifennu mwy yn y Gymraeg. Dwi wastad yn teimlo yn well ar ôl ceisio gwneud rhywbeth yn Gymraeg fel ei fod yn rhyw fath o weithred wleidyddol ac yn wir erbyn hyn ag erbyn degawdau bellach mae unrhyw beth i wneud gyda'r iaith yn weithred wleidyddol. Siŵr fod rhai yn gweld o fel baich a phwysau trwm ond mae'n well i ni gyd weld o fel her! Weithiau ar ôl rhyw sylwad annoeth ar y cyfryngau cymdeithasol mae yn teimlo ein bod mewn sefyllfa amddiffynnol ac mae'r meddylfryd yma o warchod ag amddiffyn rhywbeth yn un cyfarwydd iawn i'r Cymry Cymraeg erbyn hyn ond pa mor iachus ydy hwn i ni ag ein hiechyd meddwl. Allwn ni gyd freuddwydio am filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac mae'n hollol anorfod i gael targed ond weithiau mae dyn yn meddwl ag ydy hwn wedi rhoi ffug gobaith i ni. Fel dywedodd y Farwnes Eluned Morgan mae gan bawb ddyletswydd dros yr iaith ond gyda llai yn ymgeisio i fod yn athrawon cyffredin pa arweiniad ydy hyn i athrawon sydd eisiau dysgu Cymraeg? A sut fath o Gymraeg fydd hyn? Bratiaith fel yn iaith i neu rywbeth gwbl gywir ag a fydd hwn yn ddigon i droi meddylfryd bobol ifanc ddi Gymraeg ei iaith tuag at yr iaith. Mae'r Comisiynydd Iaith wedi gwneud gwaith dryw dros y blynyddoedd ond talcen caled ydy brwydro fel hyn ac weithiau chi'n teimlo byddai'r Gymraeg yn cael ei fendithio gan beiriant cysylltiadau cyhoeddus gwell. Sut allwn ni fel y rhai sydd wedi cael y rhodd o'r iaith perswadio ein cyd Gymry fydd o fendith a lles iddyn nhw ei ddysgu? Yn anffodus mae dweud nag iaith wreiddiol, gynhenid ein gwlad ddim yn ddigon o berswâd. Rhywbeth i ni gyd feddwl amdano fel i ni yn claddu ein McDonalds ag ein Starbucks! 

4 comments:

  1. Braf eich gweld ysgrifennu yn y Gymraeg eto Dafydd. Daliwch ati. Dych chi'n codi pwyntiau diddorol. Yn bersonol dwi’n meddwl bod targed o filiwn o siaradwyr yn un optimistig. Pam? Rydyn ni'n dibynnu gormod ar addysg i gyrraedd y targed hwnna. Mae'r elfen honna yn bwysig dros ben ond mae angen dynesfa sy'n torri traws pob agwedd o'n cymdeithas ni. E.e.. mae'n grêt bod sianel teledu Cymraeg gyda ni, ond ar yr un pryd mae rhoi'r Gymraeg mewn blwch taclus lle mae pobl ddi-gymraeg yn gallu anghofio amdani. Mae angen gweld mwy o Gymraeg ar BBC Wales / ITV Wales er mwyn iddo fe gael ei gweld fel rhywbeth sy'n rhan o'r 'mainstream' ac nid rhywbeth ar wahân. Mae enghreifftiai eraill ond bach iawn yw'r blwch ymateb yma!

    ReplyDelete
  2. Diolch am hwnna Andy a dwi'n cytuno gyda chdi ein bod yn rhoi gormod o bwyslais ar addysg i gyraedd y nod. Mi faswn yn falch iawn clywed am yr engreifftiau eraill mewn blwch ymateb arall.

    ReplyDelete
  3. Bydd angen i'r Gymraeg treiddio popeth rydyn ni'n wneud nes bod hi'n amhosibl ei hanwybyddu. Fel dych chi wedi cyfeirio ati eisoes; mae gan bawb ddyletswydd dros yr iaith, yn cynnwys y di-gymraeg, ond ym fy marn i mae dau grŵp o bobl sy'n gallu effeithio ar y sefyllfa yn fwy.

    Y grŵp gyntaf yw ni sy'n siarad yr iaith. Ac mae'r ateb yn syml. Rhaid defnyddio a bod yn falch o'r Gymraeg sydd gyda ni. Gwell Cymraeg slac na Saesneg slic bob tro dweda i: Ydw i'n defnyddio'r iaith cymaint ag medrwn? Pa iaith ydw i'n defnyddio i siarad â theulu fi, ffrindiau fi, yn y gwaith. Ydw i'n ysgrifennu blog gwych yn Gymraeg fel fy ffrind Dafydd ayyb.

    Yn y gwaith dw i'n eistedd wrth ochr dyn o Lundain sy wedi priodi a Chymraes sydd yn bendant ei barn taw gwastraf’ amser ac arian yw'r iaith. Fel gallwch chi ddychmygu roedd ei farn e'n efelychu un ei wraig, ac roedd yn hoffi galw fi'n 'cottage burner' (fel Jôc - dim byd cas). Yn raddol wrth glywed fi'n siarad gydag Endaf (cydweithiwr) a fy mechgyn i ar y ffon mae e wedi newydd ei agwedd ac wedi dysgu sut i ddweud cwpl o bethau syml yn y Gymraeg nes bod e'n wastad yn cyfarch fi wrth gyrraedd y gwaith gyda 'Bore da, shwd dych chi?' ac ar hyn o bryd yn trio dysgu 'Peidiwch losgi fy mwthyn os gwelwch yn dda' er mwyn i'r job parhau - ond yn y Gymraeg erbyn hyn. Yn amlwg fydd e byth yn dysgu Cymraeg yn go iawn - ond o leiaf mae e wedi newid ei agwedd yn gyfan gwbl.


    Yr ail grŵp swn i'n meddwl yw ein ffrindiau lawr yn y Bae. Heb os neu oni bai mae angen deddf iaith newydd. Mae'n warthus does dim cyfrifoldeb ar gwmnïau mawr preifat gwneud pethau yn ddwyieithog. Ble mae'r Gymraeg ar wefannau Iceland, Redrow, Admiral GE ayyb? Dydw i ddim yn siarad am gwmnïau sy ddim yn gallu fforddio ei wneud fan hyn!

    Beth am hybu rhyw fath o raglen dysgu iaith swyddogol ar gyfer y gweithle, ac yn ardystio'r cyflogwyr sy'n dilyn y rhaglen? Mae fy nghyflogwr fi yn dangos ei dystysgrif 'Investing in People' yn falch yn y fynedfa. Byddai'n braf gweld un sy'n dangos bod nhw'n buddsoddi yn y Gymraeg. Efallai byddai hi'n bosibl rhoi cymhorthdal i gyflogwyr bach hefyd.

    Pwynt arall lle gallai'r llywodraeth yn helpu yw cost dysgu Cymraeg. Yn aml mae dosbarth nos Sbaeneg yn rhatach na'r un Gymraeg. Pa gwrs sydd yn ddeniadol o safbwynt ariannol tybed?


    I fod yn ddadleuol i orffen efallai dylai hi fod yn orfodol i siarad Cymraeg ar gyfer rhai swyddi cyhoeddus pwysig. (Meddwl am brif weithredwr CBAC newydd wrth ysgrifennu ydw i)

    (Ymddiheuriadau am y traethawd (Cymraeg slac yn anfoddus!))

    ReplyDelete
  4. Diolch yn fawr i ti am y sylwadau uchod Andy. I ddefnyddio fy Nghymraeg slac i ategu i rhai o dy bwyntiau. I ni ein dau yn ymddiheurio ond yn y bon ddyllwn ni ymfalchio yn y Gymraeg sydd gyda ni! Dwi'n dy gwahodd di yn fan hyn, yn swyddogol, gyda tystion yn bresennol i sgrifennu post gwadd i'r blog yma i ddathlu ei benblwydd yn chwech oed ar y 19fed o Ionawr 2018. Mi faswn yn falch iawn clywed am dy stori di yn dysgu'r iaith, faint cymerodd o i ti meistroli y Cymraeg slac yma ag unrhyw awgrymiadau i ddysgwyr eraill. Mae gen ti llaw rhydd yn fan hyn i sgrifennu beth bynnag wyt ti eisiau! Dim pwysau, dim orfodaeth ond mi faswn wrth my modd yn clywed dy hanes di gyda'r iaith Gymraeg os wyt ti yn fodlon rhannu!

    ReplyDelete

I am a poet dahling not a paramedic

  I have not written a blog post in the month of April 2024 yet and it is the 22nd already. As I type this I do not know what I am going to ...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman